|
Croeso i Dudalen Wybodaeth Gipsy Moth IV Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru
Mae Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru wedi sicrhau lle i bedwar person, tri o bobl ifanc ynghyd ag un cynorthwyydd, ar un o’r cymalau sydd i gael eu cwblhau gan y Gipsy Moth, cwch hwylio Syr Francis Chichester sy’n enwog am hwylio o amgylch y byd, wrth iddo herio moroedd y byd unwaith eto gyda mordaith dwy flynedd o hyd ar draws moroedd a phorthladdoedd ym mhellteroedd byd. Pwrpas y cynllun hwn yw cyflwyno pobl ifanc i fenter hwylio a diwylliannau newydd, i’w dysgu i ddibynnu ar waith tîm ac i ddangos iddynt sut brofiad yw byw mewn cwch bach sydd ar drugaredd y môr.
Er mwyn llenwi’r llefydd sydd ar gael, mae ChDGC wedi creu cystadleuaeth i ysgolion a cholegau, i ddewis, ar sail eu gallu, tri pherson ifanc rhwng 16 a 18 oed sy’n barod i weithio’n galed am bum mis i ddysgu pob math o sgiliau Chwaraeon Dŵr. Trwy ddilyn y broses ddethol a amlinellir yn y ddogfen isod, gallant fod yn cystadlu fel cynrychiolwyr eu hysgol yn erbyn ysgolion eraill mewn digwyddiad terfynol a gynhelir ar Lyn Padarn, (i’w gadarnhau), Llanberis ym mis Mai 2006.
Bydd y digwyddiad hwn yn llawer o hwyl ynddo’i hun, a bydd yn gyfle i ddefnyddio’r sgiliau a ddysgwyd dros y pum mis blaenorol, wrth i’r cystadleuwyr gyfeiriadu o amgylch y llyn, gan ymgymryd â thasgau sy’n gysylltiedig â Chwaraeon Dŵr ar y ffordd. Bydd y sawl sy’n cwblhau’r cwrs yn yr amser cyflymaf yn ennill mordaith i’w chofio gyda threfnwyr Prosiect Gipsy Moth gyda’u holl gostau wedi’u talu ar eu rhan.
Am ragor o fanylion ewch i www.gipsymoth.org
Dyma restr o ddeunydd sy’n ymwneud â’n cystadleuaeth Gipsy Moth IV a gynhelir rhwng Tachwedd 2005 a 7 Mai 2006 y gallwch ei lawrlwytho:
Taflen i hysbysebu’r digwyddiad yn eich ysgol.
Map o’r fordaith y bydd y Gipsy Moth IV yn ymgymryd â hi.
Manylion sut yr ydym yn bwriadu trefnu’r gystadleuaeth.
Rhestr o’r gofynion sylfaenol a ddisgwylir gan y timau cyn y diwrnod dethol.
Rhestr o Gwestiynau Cyffredin.
Ceir dolen cyn hir at y darparwyr hyfforddiant sy’n gweithio gyda ni i hyfforddi’r cystadleuwyr i’w galluogi i gyrraedd y safonau sylfaenol.
Y cam nesaf
Ar ôl penderfynu bod eich ysgol am gymryd rhan, Cliciwch Yma i gofrestru enw’r ysgol, ei manylion cysylltu a manylion y person a fydd yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng eich ysgol a Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru. Y person yma fyddai’r person naturiol i gael ei ddewis fel y ‘cynorthwyydd’ a fyddai’n dod gyda’r tîm buddugol ar y fordaith pe bai’ch ysgol chi’n fuddugol.
Ond bydd rhaid i chi frysio, gan ein bod yn rhagweld y bydd rhaid i ni gyfyngu nifer yr ysgolion a gaiff gystadlu i 10. Felly'r cyntaf i’r felin fydd hi.
Gallwch anfon unrhyw ymholiadau at Stuart Gibson yn ChDGC ar:
stuart@northwaleswatersports.com neu ffoniwch 01248 679008
Pob hwyl!
|