Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru
Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru

Mae Gogledd Cymru’n baradwys naturiol i hwylio, hwylio cychod modur, canŵio, pysgota, sgïo jet, deifio, hwylfyrddio a phob math o weithgareddau dŵr.

Mae digon o leoliadau sy’n addas i arbenigwyr a dechreuwyr fel ei gilydd, a hynny gyda thraethau bendigedig, arfordiroedd creigiog a mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri’n gefndir i’r cyfan.

Mae Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru Cyf yn sefydliad a ffurfiwyd o dan nawdd y British Marine Federation, i gefnogi holl aelodau’r diwydiant chwaraeon dŵr – boed fasnachol, gyhoeddus neu wirfoddol – o fewn ardaloedd Amcan 1 Gogledd Cymru.

Yn y wefan hon byddwn yn ymdrechu i gynorthwyo a hyrwyddo ein haelodau a chynnig yr holl wybodaeth angenrheidiol yn yr un wefan i ymwelwyr â Gogledd Cymru.

Gipsy Moth IV Competition     Slipways Status

Cruise in Company     Regatta of Wales

   © 2006, Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru Gwefan gan: Blah d Blah