Cystadleuaeth Gipsy Moth IV

Irish Marina Sector / Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru 2006 Cruise in Company

Gydag wythnos o hwylio o amgylch Bae Dulyn a phasio ddwywaith trwy ddyfroedd Môn, mae Cruise in Company eleni yn si?r o fod yn ddigwyddiad poblogaidd ymhlith clybiau lleol, ysgolion hwylio a hwylwyr unigol fel ei gilydd.

Mae’r fordaith yn cyfuno teithiau hwy sy’n cynnig mwy o her gyda chymalau amrywiol a diddorol. Bydd y ffaith fod llawer o rai eraill yn mentro allan ar yr un pryd yn rhoi hwb sylweddol i’r rhai hynny nad ydynt wedi mentro cyn belled o’r blaen.

Bydd brawdoliaeth gref yn datblygu ymhlith y rhai sy’n cymryd rhan, ac mae honno’n frawdoliaeth sy’n cael ei chryfhau ymhellach yn y porthladd wrth i’r clybiau hwylio, tafarnau a marinas wneud eu gorau i gyfrannu at hwyl pawb. Yr ydym yn darparu llong sydd ar gael i gynnig arweiniad a chyngor i’r rhai fydd eu hangen ac sy’n creu dolen gyswllt rhyngom ni fel sefydliad a’r fordaith.

Mae’n bosibl cofrestru ar gyfer yr wythnos yn Iwerddon yn unig, yr wythnos yng Nghymru’n unig, neu gall y rhai mwy uchelgeisiol yn eich plith sydd â’r amser i’w sbario, ymuno â’r ddwy wythnos.

Darllenwch y pedair dogfen isod, neu cysylltwch â swyddfa Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru (01248 679008), ac fe gewch fwy o fanylion am y fordaith, y telerau ac amodau a’r cyfarwyddiadau ymuno cyffredinol.

Llythyr Eglurhaol

Y Fordaith

Telerau ac Amodau

Cofrestru

Gobeithiwn y gallwch ymuno â ni ac edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn ystod mordaith Cruise in Company eleni.

Cofion Gorau,

Stuart Gibson
Cydlynydd Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru

Sylwer: Er bod y Irish Sea Marine Sector a Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru yn darparu cefnogaeth ac yn cyfrannu at ddigwyddiad Cruise in Company, os byddwch yn dewis cymryd rhan, dylech gofio mai capten eich cwch sy’n gyfrifol am ddiogelwch eich cwch a’ch criw, addasrwydd eich cwch i ymgymryd â’r fordaith a’r broses benderfynu gyffredinol.



   © 2006, Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru Gwefan gan: Blah d Blah