Ynghylch Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru

Mae Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru Cyf yn sefydliad a ffurfiwyd o dan nawdd y British Marine Federation, i gefnogi holl aelodau’r diwydiant Chwaraeon Dŵr – boed fasnachol, gyhoeddus neu wirfoddol – o fewn ardaloedd Amcan 1 Gogledd Cymru.

Bydd ein gweithgareddau’n seiliedig ar greu’r wefan Borth gyffrous hon o’r enw www.watersportwales.co.uk lle bydd pob aelod o ddiwydiant Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru’n gallu cymryd rhan.

Y nod yw gweithredu fel y prif adnodd ar gyfer pawb sy’n ymwneud â Chwaraeon Dŵr yng Ngogledd Cymru a bydd yn cynnwys cronfeydd data cynhwysfawr gyda rhestrau a dolenni a fydd ar gael am ddim i aelodau.

Ar hyn o bryd mae Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru’n gweithio ochr yn ochr â Chynghorau Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Sir Ddinbych, Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru a Cholegau Addysg Bellach Llandrillo, Meirion Dwyfor a Menai i ddatblygu anghenion seilwaith, marchnata a hyfforddi.

Mae’r meysydd datblygu a thrafod yn cynnwys:

  • l Darparu angorfeydd i ymwelwyr

  • Datblygu llithrfeydd ychwanegol

  • Darparu mannau parcio diogel ar gyfer ceir ac ôl-gerbydau

  • Sefydlu cyrtiau storio diogel ar gyfer gwasanaethau ‘Parcio a Theithio’

  • Parthu unedau diwydiannol at ddefnydd morol yn benodol ar gyfer busnesau newydd a rhai sy’n ehangu.

  • Datblygu amrywiaeth lawn o hyfforddiant mewn addysg forol gan gynnwys prentisiaethau, hyfforddiant trawsnewid, cynlluniau hyfforddi rheolwyr a phrofiad gwaith ynghyd â’r holl gyrsiau RYA arferol

  • l Datblygu ‘Coleg Morol Rhithiol’ i Ogledd Cymru.

  • Marchnata’r ardal yn galed trwy gyhoeddi pamffled Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru, cyfeiriadur o wasanaethau, cyhoeddi datganiadau rheolaidd i’r wasg a sicrhau presenoldeb mewn digwyddiadau morol fel Sioe Gychod Llundain






Ymaelodi

Manteision ymaelodi - Allanol:

  • 'Nerth mewn niferoedd' – llefaru ag un llais

  • Manteision ymaelodi - Allanol:

  • Galluogi busnesau morol Bach a Chanolig i gyrraedd marchnadoedd cenedlaethol a rhyngwladol

  • Cronfa ddata sy’n rhestru ac sy’n cynnwys dolenni at wefannau

  • Newyddion am ddim ar y wefan am gwmnïau a digwyddiadau

  • Presenoldeb mewn arddangosfeydd cenedlaethol a rhyngwladol

  • l Cysylltiadau sy’n ychwanegu gwerth at dwf y diwydiant

  • Potensial i ymestyn y tymor twristiaeth a digwyddiadau

  • Ffynhonnell gwybodaeth ar ymchwil marchnad a chefnogaeth

Manteision ymaelodi – Mewnol

  • Ychwanegu at ddylanwad a hygrededd cwmnïau

  • Sicrhau mwy o sylw i’ch cwmni – trwy lyfrau a thaflenni tywys

  • Cyfle i fanteisio ar brentisiaethau a hyfforddiant ychwanegol i reolwyr arbenigol ac sydd wedi’i noddi’n rhannol

  • Cyfle i gyfranogi mewn fforymau masnachol a chyfnewid syniadau

  • Cyfle i fynychu Cynhadledd Diwydiant Morol flynyddol Gogledd Cymru

Cost ymaelodi:

  • Nifer y cyflogeion 1 i 4 = £50
  • Nifer y cyflogeion 5 i 10 = £100
  • Nifer y cyflogeion 11+ = £200
Cofrestrwch yn awr





Hysbysebu

Os nad ydych chi’n ymwneud yn uniongyrchol â’r diwydiant morol (llety gwely a brecwast, bwyty, neu dafarn er enghraifft) ac am i’ch manylion gael eu cynnwys ar y safle, defnyddiwch y ffurflen gysylltu i gysylltu â ni.

Ffurflen Gysylltu    

   © 2006, Chwaraeon Dŵr Gogledd Cymru Gwefan gan: Blah d Blah